Tuesday 23 February 2010

Dathlu / Celebrating Fflur Dafydd

Cafodd llwyddiant Dr. Fflur Dafydd yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala ei ddathlu mewn noson arbennig ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Fflur yn ddarlithydd yn Adran Saesneg y Brifysgol a hi oedd enillydd Gwobr Daniel Owen 2009, am ei nofel Y Llyfrgell. Yn ogystal â bod yn nofelydd ac academydd, mae Fflur Dafydd hefyd yn adnabyddus yng Nghymru fel cantores a chyfansoddwraig.

Yn arwain y teyrngedau roedd yr Is-ganghellor, yr Athro Richard B. Davies, y Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Iwan Davies a’r Athro Stevie Davies, Cyfarwyddwr ysgrifennu creadigol yn yr Adran Saesneg. Yn y digwyddiad fe fu Fflur Dafydd hefyd yn darllen rhan o’i nofel fuddugol ac fe fu ’r Athro John Rowlands, un o feirniaid Gwobr Daniel Owen 2009, yn trafod y nofel a’i chyfraniad i lenyddiaeth Gymraeg.

Soniodd yr Athro Rowlands mai dyma oedd un o’r nofelau gorau erioed i ennill Gwobr Daniel Owen a bod Fflur gyda’r awduron mwyaf cyffrous a dawnus yng Nghymru heddiw.
Wrth dalu teyrnged i lwyddiant Fflur fe bwysleisiodd yr Is-ganghellor, yr Athro Richard B. Davies bwysigrwydd rôl y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan ddweud ei bod yn nodwedd neilltuol o’i delwedd ryngwladol.

Cadeiriwyd y noson gan gyfarwyddwr CREW, Daniel Williams, a cafodd y noson ei chloi gan Dr Tudur Hallam o Adran y Gymraeg a gyfansoddodd gywydd i gyfarch Fflur.


Dr.Fflur Dafydd’s recent success at the National Eisteddfod has been marked in an official celebration at Swansea University.

Fflur Dafydd is a lecturer in the English department and won the Daniel Owen prize 2009, for her novel Y Llyfrgell (The Library). As well as being a writer and academic, Fflur Dafydd is also a well-known in Wales as a singer and song-writer.

The tributes were led by Vice-chancellor, Professor Richard B. Davies, Deputy Vice-chancellor, Professor Iwan Davies and Professor Stevie Davies, director of the creative writing programme in the department of English. At the event Fflur Dafydd read extracts from the winning novel and Prof. John Rowlands, one of the judges of the Daniel Owen prize 2009, discussed the novel and Fflur’s contribution to Welsh literature.

Prof. Rowlands said that the novel has been hailed as one of the best ever to win the Daniel Owen Prize and that Fflur is one of Wales’ most interesting and talented writers.
Paying tribute to Fflur’s success the Vice-chancellor, Professor Richard B. Davies, emphasized the importance of the Welsh language’s role at Swansea University, stressing that the language is a vital and remarkable feature of the University’s international image.

The evening was chaired by Daniel Williams of CREW, and Dr Tudur Hallam from the Welsh department brought proceedings to a fitting end by performing a a “cywydd”(Welsh strict metre poem) especially composed for Fflur.

No comments: