Cyfres Salon Llenyddol y Sefydliad Diwylliannol
Dydd Mercher 6ed Ebrill 12yp – 1yp Creu Taliesin, Campws Singleton
‘Brittle with Relics’
Ar y cyd â Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton Fel rhan o Gyfres Salonau Llenyddol, bydd Richard King yn sgwrsio â Kirsti Bohata, Athro Llenyddiaeth Saesneg a Chyfarwyddwr CREW (y Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) ym Mhrifysgol Abertawe. Llyfr sy'n torri tir newydd am hanes pobl Cymru yn ystod cyfnod o newid cenedlaethol mawr. Yn ystod traean olaf yr ugeinfed ganrif, profodd Cymru effeithiau dad-ddiwydiannu, colli cyflogaeth a chydlyniad cymunedol yn sgil hyn, a brwydr am ei hiaith a'i hunaniaeth, i gyd ar yr un pryd. I raddau helaeth, gorfodwyd y newidiadau hyn ar y wlad a bu'n rhaid i'w llais ei hun, na cheir cytundeb yn ei gylch braidd byth o fewn ei ffiniau, frwydro i gael ei glywed y tu allan i Gymru. Mae Brittle with Relics yn adrodd hanes pobl Cymru wrth iddynt fynd drwy rai o ddigwyddiadau mwyaf seismig a thrawmatig y wlad: trychinebau Aberfan a Thryweryn; twf mudiad yr iaith Gymraeg; Streic y Glowyr a'i sgil-effeithiau; a'r bleidlais o drwch blewyn o blaid datganoli rhannol. Gan gynnwys lleisiau Neil Kinnock, Rowan Williams, Leanne Wood, Gruff Rhys, Michael Sheen, Nicky Wire, Siân James, ymgyrchwyr dros y Gymraeg, aelodau'r hen gymunedau glo a llawer mwy, dyma stori hollbwysig am genedl sy'n benderfynol o oroesi, gan goleddu'r gobaith y bydd Cymru, ryw ddydd, yn ffynnu ar ei thelerau ei hun. Richard King yw awdur Original Rockers (a gafodd ei gynnwys ar restr fer Gwobr Gordon Burn ac ar restr Rough Trade, The Times ac Uncut o lyfrau'r flwyddyn), How Soon is Now? (Llyfr Cerddoriaeth y Flwyddyn The Sunday Times) a The Lark Ascending (Un o lyfrau'r flwyddyn Rough Trade, Mojo a'r Evening Standard, a llyfr rhestr fer Gwobr Penderyn) y cyhoeddwyd pob un ohonynt gan Faber & Faber. Cafodd ei eni i deulu dwyieithog yn ne Cymru a bu'n byw yng nghefn gwlad Powys am yr 20 mlynedd diwethaf. COFRESTWRCH YMA: bit.ly/brittlewithrelics
| Cultural Institute Literary Salon Series
Wednesday 6th April 12pm – 1pm Taliesin Create, Singleton Campus
‘Brittle with Relics’ In association with Richard Burton Centre for the Study of Wales As part of the Literary Salon Series, Richard King will be in conversation with Kirsti Bohata, Professor of English Literature and Director of CREW (Centre for Research into the English Literature and Language of Wales) at Swansea University. A landmark history of the people of Wales during a period of great national change. In the closing third of the twentieth century, Wales experienced the simultaneous effects of deindustrialisation, the subsequent loss of employment and community cohesion, and the struggle for its language and identity. These changes were largely forced upon the country, whose own voice, rarely agreed upon within its borders, had to fight to be heard outside of Wales. Brittle with Relics is a history of the people of Wales undergoing some of the country's most seismic and traumatic events: the disasters of Aberfan and Tryweryn; the rise of the Welsh language movement; the Miners' Strike and its aftermath; and the narrow vote in favour of partial devolution. Featuring the voices of Neil Kinnock, Rowan Williams, Leanne Wood, Gruff Rhys, Michael Sheen, Nicky Wire, Sian James, Welsh language activists, members of former mining communities and many more, this is a vital history of a nation determined to survive, while maintaining the hope that Wales will one day thrive on its own terms. Richard King is the author of Original Rockers (shortlisted for the Gordon Burn Prize and a Rough Trade, The Times and Uncut Book of the Year), How Soon Is Now? (the Sunday Times Music Book of the Year) and The Lark Ascending (a Rough Trade, Mojo and Evening Standard Book of the Year, shortlisted for the Penderyn Prize), all published by Faber & Faber. He was born into a bilingual family in South Wales and for the last twenty years has lived in the rural county of Powys, in mid-Wales. REGISTER HERE: bit.ly/brittlewithrelics |