Tuesday 5 February 2019

Extended Deadline: Multilingual Literatures / Llenyddiaethau Amlieithog


CALL FOR PAPERS

Multilingual Literatures. Interdisciplinary Conference

Keynotes Speakers
Professor Doris Sommer (Harvard)
Professor Carl Tighe (Derby)
Professor Daniel Williams (Swansea)

Venue: Gregynog Hall, Nr. Newtown, Wales (www.gregynog.org)

Dates: 17-19 July 2019

Knowledge of multiple languages was once common for most writers who chose their idiom according to the purpose of their text and its intended readership (Forster). It has been argued that it was only with the rise of the nation state in the eighteenth and nineteenth centuries and its dependence on a unique Sprachgeist (Herder) that literary production came to be coupled to a national tongue (Anderson). In the current age of globalisation, knowledge of another language is increasingly rare among Anglophone writers, while in other parts of the world an ability to use English as a second language is a basic skill. In literary expression translated English genres and styles threaten to crowd out native or mother-tongue traditions (Mizumura), while English simultaneously absorbs outside influences and Anglophone readers shun translations.
This conference sets out to explore diverging trends across minor and major languages, especially those with an established presence in Europe with respect to individual authors or literary periods, extending from the Medieval to the contemporary. It addresses the following questions:
How may we define such terms as ‘multilingual fiction’ or ‘multilingual poetry’ with respect to theory and / or practice?
In the modern era, how far do multilingual writers function as cultural intermediaries between states or language communities?
What roles can such writers play in periods of upheaval or conflict which involve their two language communities and threaten to call into question their dual affiliations?
Is their bilingualism a factor in their reception, as evidenced in reviews and other public discussions of their work, or do they try to conceal it?
To what extent does language knowledge affect choices of subject-matter, perspective, genre, and styles?


We invite proposals for papers on any topic related to multilingual literatures from across the literary and linguistic disciplines.

Themes may include:
Language choice and power
The translingual and ‘born translated’ (Walkowitz)
Language switching, borrowing and mixing
Invented languages
Intercultural / lingual mediation and cultural appropriation
The ‘Modern Languages’ novel
Literary calques
Depictions of the foreign, including other languages
Creative approaches to representing multilingualism in poetry and fiction
Language games
Multilingual writing

Proposals for papers or panels in languages other than English are welcome. We are planning to publish a selection of the papers. Please send the following details by 15 February 2019 (extension for English Studies) to the conference organisers: title; 200-word abstract; affiliation or professional background.

Some bursaries are available for postgraduate students.



Conference Organisers
Professor Julian Preece (j.e.preece@swansea.ac.uk)
Swansea University


Advisory Board
Dr Thomas Bak (Edinburgh / Bilingualism Matters)
Professor Patrick McGuiness (Oxford)
Dr Abdel-Wahab Khalifa (Cardiff)
Dr Anna Metcalfe (Birmingham)
Dr Zoe Skoulding (Bangor)
Professor Antonella Sorace (Edinburgh / Bilingualism Matters

Multilingual Literatures is part of the Cross-Languages Dynamics: Reshaping Communities
project funded by the Arts and Humanities Research Council through the Open World Research Initiative.






GALWAD AM BAPURAU

Llenyddiaethau Amlieithog  -  Cynhadledd Ryngddisgyblaethol

Prif Siaradwyr
Yr Athro Doris Sommer (Harvard)
Yr Athro Carl Tighe (Derby)
Yr Athro Daniel Williams (Abertawe)

Lleoliad: Neuadd Gregynog, ger Y Drenewydd, Cymru (www.gregynog.org)

Dyddiadau: 17 - 19 Gorffennaf 2019

Ar un adeg, roedd hyfedredd mewn sawl iaith yn gyffredin i'r rhan fwyaf o ysgrifenwyr a fyddai'n dewis iaith ysgrifennu ar sail diben y testun a'r gynulleidfa darged (Forster). Mae rhai wedi dadlau mai cynnydd y genedl-wladwriaeth yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'i dibyniaeth ar Sprachgeist unigryw (Heder), oedd yn gyfrifol am y cysylltiad agos rhwng gwaith llenyddol ac iaith genedlaethol (Anderson). Yn yr oes globaleiddio bresennol, mae hyfedredd mewn iaith arall yn gynyddol brin ymhlith awduron mai Saesneg yw eu hiaith gyntaf, ond mewn rhannau eraill o'r byd, mae'r gallu i ddefnyddio Saesneg fel ail iaith yn sgil sylfaenol. Mewn mynegiant llenyddol, mae cyfieithiadau o genres ac arddulliau Saesneg yn bygwth gwthio traddodiadau brodorol neu famiaith o’r neilltu (Mizumura) tra, ar yr un pryd, mae Saesneg yn amsugno dylanwadau allanol ac mae darllenwyr Saesneg eu hiaith yn osgoi cyfieithiadau.
Bwriad y gynhadledd hon yw archwilio tueddiadau gwahanol ar draws ieithoedd llai ac ieithoedd mawr, yn enwedig y rhai â phresenoldeb sefydledig yn Ewrop o ran awduron unigol neu gyfnodau llenyddol, o'r Canol Oesoedd i'r presennol. Mae'n mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:
Sut gallwn ddiffinio termau megis 'ffuglen amlieithog' neu 'farddoniaeth amlieithog' mewn perthynas â damcaniaeth a/neu ymarfer?
Yn yr oes fodern, i ba raddau y mae ysgrifenwyr amlieithog yn gweithredu fel cyfryngwyr diwylliannol rhwng gwladwriaethau neu gymunedau iaith?
Pa rolau y gall ysgrifenwyr eu chwarae yn ystod cyfnodau o newid mawr neu wrthdaro sy'n cynnwys cymunedau eu dwy iaith ac yn bygwth bwrw amheuaeth ar eu teyrngarwch deuol?
Ydy eu dwyieithrwydd yn elfen yn yr ymateb i'w gwaith, fel y'i gwelir mewn adolygiadau a thrafodaethau cyhoeddus eraill am eu gwaith, neu a ydynt yn ceisio ei guddio?
I ba raddau y mae hyfedredd mewn iaith yn effeithio ar ddewis maes pwnc, safbwynt, genre ac arddull?


Rydym yn gwahodd cynigion ar gyfer papurau ar unrhyw bwnc sy'n berthnasol i lenyddiaethau amlieithog o'r holl ddisgyblaethau llenyddol ac ieithyddol.

Gall themâu gynnwys:
Dewis a phŵer iaith
Y trawsieithog a 'cyfieithiad wrth ei eni’ (Walkowitz)
Newid rhwng ieithoedd, benthyca a chymysgu
Ieithoedd ffug
Cyfryngu rhwng diwylliannau/ieithoedd a meddiannu diwylliannol
Y nofel 'Ieithoedd Modern'
Dynwarediadau llenyddol
Darluniadau o'r estron, gan gynnwys ieithoedd eraill
Ffyrdd creadigol o gynrychioli amlieithrwydd mewn barddoniaeth a ffuglen
Gemau iaith
Ysgrifennu amlieithog

Croesewir cynigion ar gyfer papurau neu baneli mewn ieithoedd heblaw am Saesneg. Rydym yn bwriadu cyhoeddi detholiad o'r papurau.  Anfonwch y manylion canlynol at drefnwyr y gynhadledd: teitl; crynodeb 200 o eiriau; perthynas â sefydliad neu gefndir proffesiynol; ieithoedd y mae gennych hyfedredd ynddynt.

Mae nifer o fwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig.


Trefnwyr y Gynhadledd
Julian Preece (j.e.preece@abertawe.ac.uk)
Prifysgol Abertawe


Bwrdd Ymgynghorol
Dr Thomas Bak (Caeredin / Bilingualism Matters)
Yr Athro Patrick McGuiness (Rhydychen)
Dr Abdel-Wahab Khalifa (Caerdydd)
Dr Anna Metcalfe (Birmingham)
Dr Zoe Skoulding (Bangor)
Yr Athro Antonella Sorace (Caeredin / Bilingualism Matters

Mae Llenyddiaethau Amlieithog yn rhan o'r prosiect Cross-Languages Dynamics: Reshaping Communities a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau drwy'r fenter Ymchwil Open World.