Friday 11 June 2010

Celebration of Writing

A CELEBRATION OF WRITING AT THE DYLAN THOMAS CENTRE

THURSDAY 17 JUNE 2010

The creative writing departments of Swansea University and Trinity University College, Carmarthen, in conjunction with the Dragon Innovation Partnership, are hosting a one day event at the Dylan Thomas Centre to celebrate writing. The free event will include discussions, readings and an opportunity to meet key industry figures. There will be representation from Parthian Books (DominicWilliams) Alcemi Press (Gwen Davies) and a chance to hear top London agent Euan Thorneycroft from AM Heath talk about his role as an agent in the publishing business.

The poet and songwriter Paul Henry will perform his poetry and music and talk about his successful publishing history, and the staff of the creative writing departments of both universities – Professor StevieDavies, Dr JeniWilliams, Dr Fflur Dafydd, and Nigel Jenkins ‐ will talk about their own experiences as teachers and published authors. There will also be an opportunity to buy books and a chance to chat informally to contributors after each session. The programme for the day is available to view at http://www.academi.org/home/i/136772/


Sessions start from 10.15 am

This is a FREE event, and all are welcome, but in order to secure a place, please ring the Dylan Thomas Centreon 01792 463980


DIWRNOD AWDURON YNG NGHANOLFAN DYLAN THOMAS, ABERTAWE DYDD IAU, MEHEFIN 17AIN 2010 – MYNEDIAD AM DDIM

Ar ddydd Iau, Mehefin 17ain, fe fydd adrannau ysgrifennu creadigol Prifysgolion Abertawe a’r Drindod, mewn cydweithrediad gyda Partneriaeth Arloesi’r Ddraig, yn cynnal diwrnod o sgyrsiau llenyddol a darlleniadau. Fe fydd hyn yn gyfle i’r cyhoedd gael blas o’r hyn sy’n digwydd ar gyrsiau ysgrifennu y ddwy brifysgol, yn ogystal â bod yn gyfle gwerthfawr i glywed cyhoeddwyr ac awduron yn sgwrsio am eu profiadau yn y byd cyhoeddi. Fe fydd ‘na hefyd gyfle prin i glywed yr asiant Euan Thorneycroft o asiantaeth AM Heath yn Llundain, un o brif asiantaethau llenyddol Prydain, yn son am rôl yr asiant o fewn y byd cyhoeddi.

Fe fydd y rhaglen yn cynnwys sgwrs rhwng yr awdur Fflur Dafydd a’r golygydd Gwen Davies o wasg Alcemi, darlleniadau a pherfformiadau gan y bardd a’r cyfansoddwr Paul Henry, sgwrs gan Dominic Williams o wasg Parthian, ac ymddangosiadau gan yr awdur Stevie Davies a’r bardd Nigel Jenkins. Fe fydd ‘na gyfle hefyd i brynu llyfrau ac i sgwrsio’n anffurfiol gyda’r cyfranwyr rhwng sesiynau.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth. Er mwyn sicrhau eich lle, rhowch ganiad i Ganolfan Dylan Thomas ar 01792 463980. Fe fydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 10.15y bore, ac mae’r amserlen lawn i’w gweld ar:
http://www.swan.ac.uk/news_centre/WhatsHappening/Headline,46759,en.php



Timetable / Amserlen
10.15 – 11.30 Fflur Dafydd and Gwen Davies
11.30 – 12.00 Coffee
12.00 – 1.15 Euan Thorneycroft from AM Heath with Stevie Davies
1.15 – 2.15 Lunch
2.15 – 3.30 Dominic Williams, Parthian
3.30 – 4.00 Coffee break
4.00 – 5.15 Paul Henry