Ar ddydd Mercher, Awst y 4ydd, dathlwyd a thrafodwyd y gyfres The Library of Wales, mewn digwyddiad yn stondin Prifysgol Abertawe a drefnwyd ar y cyd gan CREW, Cyngor Llyfrau Cymru a gwasg Parthian. Agorwyd y drafodaeth gan Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard Davies a dathlodd gysylltiadau y Brifysgol gyda'r gyfres a maes Llen Saesneg Cymru. Mynegodd Gweinidog dros Dreftadaeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones, ei edmygedd o’r gyfres a’r rôl y chwaraeodd rhai o destunau allweddol y traddodiad yn ei ddealltwriaeth o Gymru a'r byd. Dadleuodd Daniel Williams, Cyfarwyddwr CREW a Chanolfan Richard Burton, yr achos dros arwyddocâd y gyfres a'r angen yn awr i wneud y testunau yn rhan o etifeddiaeth holl bobl Cymru drwy'r cwricwlwm llenyddiaeth Saesneg yn ein hysgolion uwchradd. Atgyfnerthwyd y neges hon gan Dai Smith a drafododd, yn y Gymraeg yn bennaf, y rhesymau dros greu’r gyfres a phwysigrwydd llenyddiaeth a diwylliant wrth feithrin hunaniaeth Gymreig ddinesig. Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg yn y Cynulliad, a ddaeth a’r sesiwn i ben mewn modd grymus wrth ddisgrifio’r weledigaeth gynhwysol sy’n symbylu’r Library of Wales, a’r angen i ledaenu’r gwaith mor eang â phosibl. Roedd Glyn Ebwy, oherwydd ei hanes a'i leoliad, yn lle arbennig o briodol i gynnal y digwyddiad. Denwyd cynulleidfa dda a cafwyd sawl adroddiad yn y wasg ac ar draws byd y blogiau.
Wednesday, 13 October 2010
Celebrating and Discussing the Library of Wales

Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment